Adolygwch y ddogfennaeth Dechrau Arni gyda Joomla! i gael cyflwyniad cyflym neu ymwelwch â'r Fforwm gosod Joomla! 4.x x gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych. Gallwch hefyd ymweld â'r Fforwm Cwestiynau Cyffredinol ar gyfer Joomla! 4.x os oes gennych gwestiynau eraill am Joomla.
Ie! Lawrlwythwch y fersiwn Joomla! ydych am ei ddefnyddio, dadbacio'r ffeiliau yn lleol ac yna eu huwchlwytho i'ch cyfrif yn uniongyrchol gan ddefnyddio FTP. Bydd angen i chi hefyd greu cronfa ddata ar gyfer eich gwefan Joomla. Ar ôl i chi uwchlwytho'r ffeiliau a chreu'r gronfa ddata, bydd ymweld â'ch gwefan yn mynd â chi i dudalen gosod Joomla a gallwch ddechrau'r broses osod. Mae'r dudalen ddogfennaeth gosod Joomla yn darparu cyfarwyddiadau gosod manwl.

Gallwch ganfod cwmnïau lletya sy'n darparu lletya Joomla! dros y byd i gyd. Mae'r prosiect Joomla! yn cael ei noddi gan gwmnïau sy'n darparu lletya Joomla! arbenigol.

Awydd bod ar y rhestr yma? Cysylltwch â [email protected].

Mae Joomla! ar gael mewn dros 75 iaith. Porwch y pecynnau iaith Joomla! achrededig a chynhwyswch yr ieithoedd da chi angen ar eich gwefan.
Gallwch bersonoli Joomla! drwy osod estyniadau i ychwanegu swyddogaethau newydd i'ch gwefan neu i newid ei olwg, Mae mwy na 8,000 estyniad ar gael gan aelodau o'r Gymuned Joomla! yn barod i chi lawrlwytho o'r Cyfeiriadur Estyniadau Joomla!.
Mae fersiynau o'r gorffennol o Joomla! ar gael yn adran Lawrlwytho y wefan hon.
Mae'r llofnodion ffeiliau, a elwir hefyd yn brawfsymiau, fel olion bysedd. Cynhyrchir y llofnodion hyn gan ein tîm rhyddhau pan fydd fersiwn newydd o Joomla! yn cael ei ryddhau a gellir ei ddefnyddio i ddilysu cywirdeb ffeil wedi'i lawrlwytho a'ch helpu i sicrhau nad yw wedi'i newid mewn unrhyw ffordd. O Joomla! 3.9 ymlaen, mae'r llofnodion hyn hefyd yn cael eu dilysu wrth osod diweddariadau craidd ac estyniadau ar eich gwefan.